Neidio i'r prif gynnwy

Achosion a ffactorau risg

Ni wyddys beth sy’n gyfrifol yn y rhan fwyaf o achosion, ond gall nifer o ffactorau gynyddu’r risg y bydd yr anhwylder hwn yn digwydd

  • Maethol – cysylltir NTDs â lefelau asid ffolig isel yng ngwaed y fam. Cysylltir lefelau isel â phorthiant asid ffolig isel yn y deiet.  Argymhellir ychwanegion asid ffolig i famau o 3 mis cyn iddynt genhedlu ymlaen tan y 12fed wythnos ar ôl beichiogi, pan fydd yr ymennydd a llinyn y cefn wedi ymffurfio.
  • Genetig – diffyg rhydwythas methylen tetrahydroffolad, sy’n rhwystro asid ffolig rhag cael ei fetaboleiddo’n normal yn y corff
  • Anhwylderau’r fam, gan gynnwys diabetes (math 1 a math 2), gordewdra, beichiogi yn yr arddegau ac epilepsi. Mae rhai cyffuriau a ddefnyddir i drin epilepsi e.e. sodiwm falproad, yn cynyddu’r risg oherwydd eu heffaith ar fetaboleddiad asid ffolig.
  • Gweler cyfradd uwch o feichiogiadau ag NTD ymhlith merched yn eu harddegau (<20 oed) nag ymhlith menywod 20-34 oed.