Mae Hydroseffalws (Dŵr ar yr ymennydd/ Penchwyddi) yn digwydd pan fydd maint abnormal o fawr o hylif yr ymennydd (CSF) yn cronni yn system fentriglol yr ymennydd. Gall yr hylif hwn osod pwysedd y tu mewn i’r ymennydd gan beri problemau meddyliol a chorfforol. Hwn yw’r anomaledd cynhenid mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar yr ymennydd.