Mae’r ffactorau corfforol sy’n achosi’r gormodedd hylif yn cynnwys:
- Culhad camlas Sylvius – mae’r gamlas sy’n cysylltu’r 3ydd a’r 4ydd fentriglau’n cael ei thagu, ac o ganlyniad dim ond y fentriglau ochrol a’r 3ydd sy’n lledagored.
- Ataliad yn y ffos ôl – mae hyn yn digwydd yn syndrom Dandy Walker a hefyd yng Nghamffurfiad Arnold Chiari sy’n gysylltiedig â’r tiwb niwrol.
- Chwydd (adenoma) y plethwaith (plexus) ambilennol – mae hyn yn peri cynnydd ym maint yr CSF a gynhyrchir.
- Atsugniad anghyflawn CSF gan y filysau arachnoid.
Gall hydroseffalws fod yn gysylltiedig ag anhwylderau genetig (yn enwedig trisomeddau), gwaedlifau mewnfentriglaidd, heintiau yn y fam neu namau yn y tiwb niwrol.