Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r sefyllfa o ran rheolaeth a'r deilliannau?

Mae cywasgiad cynnar ar yr ysgyfaint rhwng wythnosau 17 a 24 y beichiogrwydd yn arfer darogan maint hypoplasia’r ysgyfaint. Yn ddelfrydol, cynllunir ar gyfer esgoriad mewn uned arbenigol sydd wedi’i chyfarparu ar gyfer darparu cymorth resbiradol. Cyflawnir cywiriadau llawdriniaethol ar ôl i gyflwr y baban gael ei sefydlogi.

Mae’r rhagolygon wedi gwella diolch i ddatblygiadau mewn gofal newydd-enedigol. Mae CARIS yn adrodd i 75% o achosion oroesi tan ddiwedd blwyddyn gyntaf bywyd y baban.