Neidio i'r prif gynnwy

Rheolaeth a deilliannau

Mae esgoriad trwy’r wain yn bosibl os aiff popeth yn iawn, er bod cyfyngiad cysylltiol ar dwf yn y groth yn bosibilrwydd.  Mae angen llawdriniaeth newydd-enedigol yn fuan ar ôl yr enedigaeth i ail-osod y coluddyn yn y ceudod abdomenol. Mae’r rhan fwyaf o fabanod yn gwneud yn dda, ond bydd rhai’n cael problemau hirdymor wrth ymborthi o ganlyniad i atresiâu neu dewhad ym mharwyden y coluddyn.