Neidio i'r prif gynnwy

Patrymau a thueddau

Yng Nghymru

Mae’r cyfraddau uchel a welwyd yng Nghymru’n ddiweddar, a’r clwstwr a gafwyd yn Sir Penybont ar Ogwr yn enwedig yn ystod 2005, yn golygu bod gastrosgisis wedi parhau i gael ei fonitro’n astud gan CARIS (gweler anomaleddau sy’n destun pryder).  Mae’r mynychder yng Nghymru ymhlith lefelau uchaf y byd, sef 5.3 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw. Yn 2006 cynyddodd y mynychder i fwy na 10 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw, ond mae wedi syrthio eto ers hynny, ac yn 2014/16 cyrhaeddodd 4.1/10,000 o enedigaethau byw a marw.

Cymru o’i chymharu â mannau eraill

At ei gilydd mae cofrestrau Ewropeaidd yn adrodd cyfraddau o gwmpas 2 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw, er bod amrywiaeth sylweddol ymhlith y cyfraddau a adroddir.  Mainz (Yr Almaen) yn unig sy’n adrodd am gyfradd sy’n uwch trwy EUROCAT, sef 6.26 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw.