Neidio i'r prif gynnwy

Unrhyw ffactorau risg?

Os yw’r asetabwlwm yn fas a’r feinwe gysylltiol amgylchynnol yn llac, mae’r glun yn fwy tebyg o ddatgymalu. Gallai hyn esbonio’r mynychder uwch a welir ymhlith benywod sydd yn sensitif i effeithiau ymlaciol estrogen. 

Mae’r risgiau’n cynyddu os yw’r baban yn fawr neu os ceir cyflwyniad o chwith. Mae esgoriad o chwith drwy’r wain yn golygu mwy o risg nag esgoriad drwy doriad Cesaraidd. Ymhlith y ffactorau risg eraill y mae prinder hylif, babanod cyntaf-anedig a beichiogrwydd lluosog.

Mae bodolaeth chwaer neu frawd hŷn â dysplasia’r glun yn cynyddu’r risg.