Ni ddiagnosir yr anhwylder hwn yn gyn-enedigol, ond ar ôl yr esgoriad rhoddir sylw manylach i’r babanod hynny a esgorwyd o chwith, neu sy’n dioddef talipes (troed clwb) neu abnormaledd yn yr asgwrn cefn.
Ymhlith y gweithdrefnau y gellir eu defnyddio â’r dwylo i ganfod camleoliad datblygiad y glun y mae profion Ortolani a Barlow.
Os oes ffactorau risg neu broblemau ynglŷn â gwirio â’r dwylo, gellir defnyddio sganiad uwchsain yn eu lle i gadarnhau’r diagnosis.