Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw patrwm craniosynostosis yng Nghymru ac yn y byd?

Y gyfradd fynychder gyffredinol ar gyfer craniosynostosis yng Nghymru yw 6.62 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw. Yn y blynyddoedd 1998 -2010, ganwyd 94% yn fyw (368 o enedigaethau).  Roedd 65% o’r rhain yn achosion ynysedig (sef craniosynostosis yn unig); roedd 18.4% yn achosion ag anomaleddau lluosol; roedd 7.5% yn rhan o syndrom, ac roedd 6.4% yn anomaleddau cromosomol/genetig.