Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae hyperplasia adrenal cynhenid (CAH) yn anhwylder endocrinol etifeddol a achosir gan ddiffygiant ensymau wrth gynhyrchu steroidau sy’n achosi annigonedd adrenal.

Mae’r ffurff a welir amlaf yn deillio o ddiffygiant 21-hydocsylas. Mae merched yn ymgyflwyno adeg eu geni â genitalia amwys a lefelau gwrywiaeth amrywiol. Mae ganddynt groth normal ond mae datblygiad y wain yn abnormal. Mae’r genitalia allanol mewn bechgyn yn normal. Mae ffurfiau ar CAH sy’n gwastraffu halen yn arwain at symptomau megis dadhydradu a phwysedd gwaed isel a all fod yn berygl bywyd.