Neidio i'r prif gynnwy

Rheolaeth a deilliannau?

Gall ymddangos yn gynenedigol ar ffurf coluddyn ecogenig a nodir mewn sganiad uwchsain. Gall meconium ileus fod yn amlwg adeg y geni. Mae cymhlethdodau resbiradol, pancreatig (diabetes) a threuliol yn adlewyrchu’r anawsterau ynghylch secretiadau mwcws. Mae anffrwythlondeb gwrywol yn gyffredin. Mae’r driniaeth yn cynnwys deiet egni uchel, moddion a ffisiotherapi. Mae marwoldeb a morbidrwydd yn dibynnu ar lefel y problemau bronco-ysgyfeiniol, ond gwelwyd gwelliant o bwys dros y blynyddoedd diwethaf hyn. Goroesodd 98% o’r 135 o fabanod a anwyd yn dioddef CF rhwng 1998 a 2006 ar gofrestr CARIS tan eu pumed penblwydd.