Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r patrwm yng Nghymru a'r byd?

Mae gryn dipyn yn llai cyffredin mewn poblogaethau Asiaidd ac Affricanaidd nag ym mhoblogaethau gwynion Ewrop a Gogledd América. Y mynychder yng Nghymru yw 4.34 i bob 10,000 o enedigaethau byw (CARIS, 1998-2012). Mae hyn yn golygu bod yr anhwylder yn effeithio ar ryw 1 o bob 2,300 o enedigaethau byw yng Nghymru. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod CF yn effeithio ar 1 i 2 o bob 2,000-3,000  o enedigaethau byw yn yr Undeb Ewropeaidd ac ar ryw 1 o bob 3,500 o enedigaethau byw yn yr Unol Daleithiau.