Neidio i'r prif gynnwy

Mamau â PKU

Mae lefelau uchel ffenylalanin sy’n croesi’r brych yn gallu effeithio ar y ffetws sy’n datblygu trwy hyrwyddo clefyd cynhenid y galon, cyfyngiad ar dyfiant, microseffali ac anawsterau dysgu. Mae’n hanfodol i lefelau ffenylalanin y fam gael eu rheoli’n ofalus. Nid yw mamau â PKU mewn perygl o ddioddef cymhlethdodau ychwanegol yn ystod y beichiogrwydd.