Neidio i'r prif gynnwy

Rheolaeth a deilliannau

Dylai’r sgrinio a gyflwynwyd yn 2012 wella’r deilliant ar gyfer yr achosion a ddiagnosir gan sicrhau y bydd mwy o deuluoedd yn dod yn ymwybodol o’r posibilrwydd eu bod yn cludo MCADD.

Mae angen i’r rhai a ddiagnosir â MCADD ochel rhag ymprydio am gyfnodau hir a rheoli unrhyw salwch yn ofalus. Gall rheoli salwch gynnwys cymryd bwyd yn aml ac yn rheolaidd, neu yfed polymer glwcos; os nad yw’r claf yn goddef hyn, mae’n bosibl y bydd angen triniaeth fewnwythiennol frys.

Rhaid i oedolion â MCADD fod yn ymwybodol hefyd o beryglon yfed gormod o alcohol a’u rheoli, yn ogystal â mabwysiadu dynesiad penodol at reoli eu pwysau.