Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n ei achosi?

Yr ensym Dehydrogenas Acyl-CoA Cadwyn Ganolig sy’n gyfrifol am y cam dadhydrogeneiddio mewn asidau brasterog wrth iddynt gael eu beta-ocsideiddio yn y mitocondria. Mae hyn yn darparu egni ar ôl i’r corff ddefnyddio ei storfeydd o glwcos a glycogen e.e. oherwydd salwch neu ymprydio. Os yw’r ensym yn ddiffygiol, ni all y llwybr hwn weithio at greu cyflenwad egni ychwanegol.