Amcangyfrifir y bydd traean o boblogaeth gwledydd Prydain yn dal haint tocsoplasmosis rywbryd yn ystod eu hoes, ond ni fydd y rhan fwyaf ohonynt yn ymwybodol o hyn gan na fyddant yn cael symptomau. Mae yna risg wrth i fenywod beichiog gael eu heintio y bydd y ffetws yn dioddef hefyd – gall y beichiogrwydd ddiweddu mewn camesgoriad neu enedigaeth farw, neu gall y baban ddioddef anomaledd cynhenid. Os bydd menyw yn datblygu tocsoplasmosis acíwt yn ystod ei beichiogrwydd, mae risg o ryw 30% y bydd yr haint yn cyrraedd y brych.
Adroddwyd 10 o achosion o anomaleddau cynhenid a achoswyd gan docsoplasmosis i gronfa ddata CARIS rhwng 1998 a 2015. Roedd anomaledd wedi’i gadarnhau gan bob un o’r achosion hyn.