Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws a'r baban?

Credir y gall tocsoplasmosis acíwt yn y fam olygu posibilrwydd o 30% o haint brychol a ffetysol. Mae tebygrwydd haint yn y ffetws yn cynyddu wrth i’r beichiogrwydd fynd yn ei flaen. Gall y canlyniadau fod yn ddifrifol, gan gynnwys marwolaeth y ffetws a chamesgoriad. Gall y baban ddioddef problemau niwrolegol, anawsterau dysgu a chorioretinitis yn y llygaid. Gellir lleihau tebygrwydd heintio brychol ac effeithiau niweidiol i’r baban drwy drin y fam â gwrthfiotigion. Cynigir cyngor i fenywod beichiog hefyd ynghylch gochel rhag bwyta cig sydd heb ei goginio digon, ac i gymryd gofal o ran glanweithdra wrth drafod cathod neu lanhau eu gwellt. Y nod yw eu diogelu rhag dal yr haint tra’u bod yn feichiog.