Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Clefyd a achosir gan yr arfilyn (parasit) Toxoplasma gondii yw hwn. Mae’r arfilyn yn byw yn ysgarthion cathod a chig heintiedig, ac mae’n rhaid iddo gael ei lyncu er mwyn iddo beri haint. Nid yw’n bosibl iddo ymledu o berson i berson. Gall oroesi am gyfnod hir mewn pridd neu ddŵr; gall ymledu i bobl sydd wedi cyffwrdd â phridd heintiedig felly, e.e. pobl sy’n garddio. Gall ymledu o’r fam i’r ffetws hefyd yn ystod beichiogrwydd.

Nid yw’r haint yn peri symptomau fel arfer mewn pobl, ar wahân efallai i salwch ysgafn tebyg i’r ffliw. Gall effeithiau’r haint fod yn fwy difrifol serch hynny mewn pobl ag imiwnedd gwan megis rhai sy’n cymryd steroidau dros dymor hir neu unigolion ifanc iawn. Gall tocsoplasmosis acíwt mewn menyw feichiog olygu canlyniadau tra difrifol i’r ffetws.