Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor gyffredin yw sytomegalofirws yng Nghymru?

Amcangyfrifir y bydd rhwng un a dau faban ym mhob 200 yn cael ei eni yn dioddef CMV cynhenid. Bydd gan ryw 13% ohonynt anomaleddau cynhenid sy’n gysylltiedig â’r haint. Adroddwyd 54 o achosion i CARIS rhwng 1998 a 2015. Roedd yn hysbys bod gan 78% ohonynt anomaledd cynhenid, sef byddardod nerfol gan amlaf. O ystyried yr hyn a wyddys am y mynychder rhyngwladol, mae’n debyg bod y 54 hyn yn adlewyrchu adrodd anghyflawn gan y gellid disgwyl gweld mwy na 300 o achosion ag anomaleddau ers 1998. Bydd yr effeithiau ar lawer o’r plant hyn yn ysgafn: mân broblemau gweledol neu glywedol na fyddant yn dod yn amlwg efallai nes iddynt ddechrau yn yr ysgol, a dyna esbonio efallai pam nad yw’r achosion hyn byth yn cael eu hadrodd i CARIS.