Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws?

Os bydd mam yn cael ei heintio am y tro cyntaf yn ystod hanner cyntaf ei beichiogrwydd, mae’r risg o heintio’r ffetws trwy’r brych o gwmpas 40%. O’r babanod hyn, mae rhwng 5 ac 15% yn dioddef yr effeithiau adeg eu geni. Gall yr effeithiau gynnwys hepatosplenomegali, thrombosytopenia, calcheiddio mewngreuanol, cyfyngiad ar dwf yn y groth, y clwy melyn, microseffali, corioretinitis, nam ar y clyw, anawsterau dysgu a ffitiau. O’r rhai sy’n dioddef effeithiau’r firws gall hyd at 30% farw, tra bydd gan 80% o’r rhai sy’n goroesi broblemau iechyd difrifol parhaus.

Os bydd haint CMV y fam yn digwydd ar adeg hwyrach yn ei beichiogrwydd mae’r risg o’i drosglwyddo trwy’r brych yn uwch o lawer, ond mae’r risg i’r baban yn llai o lawer. Un o’r anomaleddau cyffredin a gysylltir â heintiau CMV yw byddardod nerfol, ac am y rheswm yma mae llawer o’r achosion a adroddir i CARIS yn cael eu canfod gan y rhaglen sgrinio clyw babanod newydd anedig. Gall problemau diweddarach ymddangos mewn plant fel namau newrolegol, clywedol, gweledol a deintyddol. Os bydd y fam yn cael haint sy’n dychwelyd neu’n ailgychwyn droeon, mae risg sylweddol lai y bydd problemau gan y ffetws.