Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Firws cymharol gyffredin yw hwn, sy’n perthyn i deulu firysau herpes. Mae’n cael ei ledaenu trwy gyfrwng hylifoedd corfforol megis gwaed, poer, semen, wrin a hylifoedd gweiniol. Gall y firws ymddangos ar ffurf salwch tebyg i’r ffliw, neu heb symptomau o gwbl. Nodwedd arall o’r firws yw ei fod yn gallu aros yn y corff am gyfnodau hir heb gael ei ganfod, a mewn pobl iach gall osgoi sylw. Os bydd menyw feichiog yn dal haint newydd neu’n cael ei hail-heintio â’r firws, gall y firws basio ymlaen i’r baban yn y groth.