Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Togafirws yw firws rwbela, a drosglwyddir drwy secretiadau resbiradol. Clefyd hysbysadwy yw hwn sy’n peri symptomau tebyg i rai’r ffliw, ond am y ffaith mai brech yw’r prif symptom. Mewn rhyw hanner o’r achosion a geir gall yr heintiad fod yn is-glinigol. Mae brechu rhag rwbela’n rhan o’r rhaglen graidd frechu plant yng ngwledydd Prydain, a chyfunir y brechlyn rhag rwbela â brechlynnau’r dwymyn doben (clwy’r pennau) a’r frech goch i ffurfio’r brechlyn MMR. Dylai menywod sy’n ystyried beichiogi sicrhau eu bod wedi derbyn dau ddos o MMR cyn mynd ati. Clefyd ysgafn yw rwbela fel rheol, ond gall ei ganlyniadau fod yn ddifrifol i’r ffetws os bydd y fam yn ei ddal tra’n feichiog.