Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws a'r baban?

Mae’r haint yn cael ei drosglwyddo trwy’r brych mewn rhyw 25% o’r menywod sydd wedi’i ddal, ac mae’n cymryd 6 wythnos ar gyfartaledd ar ôl i’r fam gael ei heintio i arwyddion ymddangos yn y ffetws. Amcangyfrifir bod 5-10% o ffetysau’n cael eu colli ar ôl iddynt ddal yr haint, ac maent ar eu mwyaf agored i gael eu heintio yn ystod yr ail drimis –  y cyfnod rhwng y 13edd a’r 16fed wythnos o’r beichiogrwydd yw’r adeg pan fydd problemau iechyd fwyaf tebygol o ddigwydd.

Mae heintiad yn y ffetws yn amharu ar allu mêr yr esgyrn i gynhyrchu celloedd gwaed cochion, gan beri anemia. Gall achosi myocarditis hefyd. Gall problemau dybryd y galon neu anemia arwain at fethiant ar y galon a chlwy’r dŵr ffetysol yn ei sgil. Parfofirws B19 yw’r ffactor mwyaf cyffredin sy’n gyfrifol am glwy’r dŵr ffetysol di-imiwnedd. Weithiau bydd y problemau’n ymddatrys erbyn genedigaeth y baban, ond ar adegau gall yr anhwylder hwn arwain at farwolaeth y ffetws.