Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae Parfofirws B19 yn haint tra chyffredin sy’n effeithio ar bobl, gan beri salwch ysgafn tebyg i annwyd fel arfer neu heb beri symptomau o gwbl. Mae’n effeithio ar blant yn amlach nag oedolion, ac fe’i hadnabyddir hefyd fel clefyd y foch goch neu’r pumed clefyd. Fel rheol mae’r unigolion sydd wedi dal yr haint yn dioddef salwch ysgafn gyda brech; mae’r frech i’w gweld yn fwy amlwg mewn plant wrth i’w bochau droi’n goch iawn. Fe’i lledaenir trwy gyfrwng heintiau resbiradol, ond hefyd mewn gwaed a chynhyrchion gwaed. Gall parfofirws effeithio’n fwy difrifol ar bobl sydd â system imiwnedd wan. Gall ymledu i’r ffetws os bydd y fam yn dal yr haint tra’n feichiog a hithau heb fod ag imiwnedd eisoes rhag y firws.