Heintiau cynhenid oedd un o’r ddau brif fath o anomaleddau cynhenid y canolbwyntiai adroddiad 2016 arnynt. Cymerwyd y penderfyniad i ganolbwyntio ar y maes hwn cyn i firws Zika a’r microseffali cysylltiedig yn Ne America ddenu cymaint o ghoeddusrwydd. Nid oes un achos o ficroseffali cysylltiedig â firws Zika wedi cael ei adrodd i gronfa ddata CARIS hyd yn hyn; serch hynny, mae lefel goruchwyliaeth wedi dwysáu mewn unedau mamolaeth ledled gwledydd Prydain.
I gael rhagor o wybodaeth am yr oruchwyliaeth, gweler gwefan UKOSS yma: https://www.npeu.ox.ac.uk/ukoss
I gael rhagor o wybodaeth am firws Zika, gweler wefan Galw Iechyd Cymru yma: http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/z/article/zikavirus/
Cofnodwyd 133 o achosion o heintiau cynhenid ar gronfa ddata CARIS rhwng 1998 a 2015. Roedd yr heintiau y gellid eu hadrodd yn cynnwys siffilis cynhenid, clefydau firysol cynhenid megis y frech Almaenig (rwbela), herpes, brech yr ieir a sytomegalofirws, a thocsoplasmosis. Serch hynny, nid oedd pob un o’r heintiau a restrid i’w gael ar y gronfa ddata: nid oedd achosion o rwbela cynhenid wedi cael eu cofnodi.
Yn 2016 diweddarodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei ganllawiau ynghylch “Brechau yn ystod Beichiogrwydd”.
Yn draddodiadol mae CARIS wedi cofnodi pob achos o haint cynhenid a adroddwyd i dîm y gronfa ddata, ni waeth a oedd anomaledd cynhenid wedi cael ei ganfod adeg y geni neu beidio. O ganlyniad mae nifer o gofnodion mewn bodolaeth lle nad yw’n amlwg a oes anomaledd neu beidio. Mae cynlluniau ar y gweill i adolygu diffiniadau data CARIS yn 2016/17, a dyma un o’r meysydd y bwriedir eu hadolygu.