Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws a'r baban?

Gall heintiad yn y fam yn ystod 28 wythnos gyntaf ei beichiogrwydd arwain at heintiad yn y groth mewn rhyw chwarter o achosion, ond mewn cyfran fechan iawn o’r rhain yn unig y bydd hyn yn arwain at syndrom farisela cynhenid yn y ffetws. Mae’r risg yn amrywio rhwng 0.4% a 2% wrth i’r beichiogrwydd fynd yn ei flaen. Gall y syndrom gynnwys pwysau geni isel a chymhlethdodau aml-system dybryd. Mae hyn yn cynnwys abnormaleddau niwrolegol, namau yn y llygaid, anomaleddau ysgerbydol, creithio ar y croen a hypoplasia yn aelodau’r corff.  Gellir cyflawni amniosentesis i gadarnhau’r heintiad, ond nid yw’r prawf hwn yn hollol ddibynadwy ac mae’n golygu posibilrwydd o gamesgoriad.

Gall heintiadau ar adeg hwyrach yn y beichiogrwydd achosi’r eryrod mewn babanod, brech yr ieir mewn babanod newydd anedig, neu’r salwch difrifol purpura fulminans (brech yr ieir waedlifol ymledol newyddenedigol) a all brofi’n farwol. Mae difrifoldeb yr ôl-effeithiau hyn yn dibynnu ar yr adeg yn ystod ei beichiogrwydd y mae’r fam wedi cael ei heintio.

Yn ôl CDC “Os bydd haint farisela’n cychwyn yn y fam rhwng 5 niwrnod cyn yr esgoriad a 2 ddiwrnod wedyn, gall hyn olygu heintiad llethol yn y baban newydd anedig, gyda chyfradd marwoldeb mor uchel â 30%. Credir bod effeithiau dybryd y clefyd yn deillio o’r ffaith bod y ffetws yn cael ei ddinoethi i firws farisela heb fuddion gwrthgyrff goddefol y fam.”

Mae menywod beichiog hwythau mewn perygl uwch o ddioddef cymhlethdodau o ganlyniad i farisela, ac mae canran fach ohonynt yn mynd ymlaen i ddatblygu niwmonia cysylltiol a all droi’n ddifrifol.

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynecolegwyr wedi cyhoeddi canllawiau seiliedig ar dystiolaeth yng nghyswllt rheolaeth a gofal dilynol menywod sy’n dal brech yr ieir yn ystod eu beichiogrwydd: https://www.rcog.org.uk/globalassets/documents/guidelines/gtg13.pdf