Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor gyffredin ydyw yng Nghymru ac yn y byd?

Y gyfradd gros yng Nghymru yw 23.3 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw (1998-2017). Mae cofrestrau eraill yn adrodd cyfraddau uwch, a hynny’n fwy na thebyg am fod ganddynt boblogaeth famol hŷn. Mae gan ddinas Paris y boblogaeth famol hynaf yn yr Undeb Ewropeaidd; adroddodd gyfradd gros o 39.9 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw (2012 tan 2016).

Canfuwyd 1,556 o achosion o Syndrom Down rhwng 1998 a 2017, a ganwyd 46% (716) o’r rhain yn fyw. Goroesodd 93.4% (n=646) o’r babanod a gafodd eu geni â Syndrom Down tan ddiwedd 2016 tan eu penblwydd cyntaf. Diagnoswyd 64% o’r achosion yn gynenedigol yn y blynyddoedd o 1998 tan 2017. Mae hyn yn cwmpasu pob mam, ni waeth a fanteisiodd ar y cyfle i gael profion cynenedigol neu beidio.