Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae Syndrom Down yn anhwylder genetig a achosir gan gopi ychwanegol o gromosom 21 ym mhob cell neu yn rhai ohonynt. Ni ellir dileu’r cromosom ychwanegol o’r celloedd, hyd yn oed os bydd Syndrom Down wedi cael ei ddiagnosio cyn i’r baban gael ei eni. Mae gan bob menyw bosibilrwydd o eni baban â Syndrom Down.

Achosir y rhan fwyaf o achosion o Syndrom Down (90%) gan drisomedd syml, gyda phresenoldeb cromosom ychwanegol. Achosir cyfran fach o achosion gan drawsleoliad Robertsonaidd, lle mae’r deunydd cromosomaidd ychwanegol wedi’i atodi i un o’r parau arferol o gromosomau. Mae’n bosibl wedyn i’r anhwylder hwn gael ei etifeddu; awgryma hyn fod angen cynnal astudiaethau genetig ymhlith rhieni.