Neidio i'r prif gynnwy

A oes ffactorau cysylltiedig?

Mae posibiliadau uwch y bydd gan fenywod sy’n 35 oed ac yn hŷn feichiogrwydd y bydd Syndrom Down yn effeithio arno; mae’r tebygrwydd yn dal i gynyddu yn unol ag oedran y fenyw, fel y gellir gweld o’r siart a’r tabl isod.

Chromosomal downs syndrome 2018

Chromosomal down syndrome table 2018

Mae cynnydd yn oedran y tad wedi cael ei gysylltu hefyd fel ffactor risg dichonol yn achos pob un o’r tri thrisomedd cyffredin, er bod yr effaith yn ymddangos yn fach(De Sousa E, Morris JK. (2010) Case-control analysis of paternal age and trisomic anomalies. Archives of disease in childhood 95 (11), 893-897.). Mae’n bosibl hefyd bod cysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio yn gallu effeithio ar ymraniad y celloedd ar adeg meiosis; serch hynny, mae astudiaethau a gynhelir ar ôl i fodau dynol ddioddef ymbelydredd sylweddol, megis yr hyn a ddigwyddodd yn Tsiernobyl neu Hiroshima, yn rhoi canlyniadau anghyson.