Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws/baban?

Mae’r rhagolygon yn wael ar gyfer babanod â thrisomedd 18 gan fod arnynt anomaleddau lluosog. O’r babanod hynny a gafodd eu geni’n fyw yng Nghymru rhwng 1998 a diwedd 2016, goroesodd 12.9% (n=8) tan eu penblwydd cyntaf. Mae rhai babanod yn goroesi nes cyrraedd eu llawn dwf, ond anaml y digwydd hyn. Bydd oedi datblygiadol ac anabledd dysgu gydol oes yn effeithio ar bob un ohonynt. Mae anhwylderau cynhenid cysylltiedig o bwys, gan gynnwys anhwylderau cardiaidd a throethgenhedlol. Oherwydd nodweddion corfforol y babanod sy’n cael eu geni â Syndrom Edwards, sy’n gallu cynnwys gên fach a gwefus a thaflod hollt, gallant ddioddef anawsterau wrth anadlu a bwyta. Byddant yn fwy tueddol i ddal heintiau.