Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor gyffredin ydyw yng Nghymru ac yn y byd?

Cofnodwyd 169 o achosion o drisomedd 13 / Syndrom Patau rhwng 1998 a 2017; ganwyd 24 ohonynt yn fyw. Y gyfradd gros yng Nghymru yw 2.5 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw. Diagnoswyd 84.3% o achosion yn gynenedigol yn y blynyddoedd o 1998 tan 2017. Mae hyn yn cwmpasu pob mam, ni waeth a fanteisiodd ar y cyfle i gael profion cynenedigol neu beidio.