Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws/baban?

Mae’r arolygon yn wael ar gyfer babanod â thrisomedd 13, gan eu bod yn dioddef anomaleddau lluosog. O’r babanod a gafodd eu geni’n fyw yng Nghymru rhwng 1998 a diwedd 2016, goroesodd  31.8% (n=7) tan eu penblwydd cyntaf. Mae rhai babanod yn goroesi nes cyrraedd eu llawn dwf, ond anaml y digwydd hyn.

Bydd oedi datblygiadol ac anabledd dysgu gydol oes yn effeithio ar bob un ohonynt. Mae anhwylderau cynhenid cysylltiedig o bwys, gan gynnwys anhwylderau cardiaidd; anhwylderau troethgenhedlol ac arennol; anomaleddau’r gyfundrefn nerfol ganolog gan gynnwys microseffale a namau’r tiwb niwral; anomaleddau’r llygaid megis pilennau a microffthalmia; gwefus hollt ac amlfyseddogrwydd.  Yn debyg i fabanod sy’n cael eu geni â thrisomeddau eraill, mae babanod â thrisomedd 13 yn fwy tueddol hefyd i ddal heintiau.