Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae Trisomedd 13, a adnabyddir hefyd fel Syndrom Patau, yn digwydd pan fydd cromosom 13 ychwanegol, sef 3 yn lle’r 2 arferol. Hwn yw’r trydydd trisomedd mwyaf cyffredin sy’n gydweddol â genedigaeth fyw. O’r fam y daw’r cromosom 13 ychwanegol mewn 90% o achosion. Mae gan un o bob pump achos drawsleoliad Robertsonaidd. Gan ei bod hi’n bosibl ei etifeddu, mae’n hanfodol bwysig cynnal astudiaethau ar y rhieni gyda golwg ar chwilio am drawsleoliad cytbyws. Yn wahanol i Syndrom Edwards, credir ei fod yn effeithio’n amlach ar fabanod gwrywaidd nag ar rai benywaidd.