Namau cyffredin yn y glust a’r clyw
Ffurfir y glust gan dair rhan:
- y glust allanol - pinna (godre’r glust), meatws acwstig allanol a haen allanol y bilen dympanig
- y glust ganol (tri esgyrnyn clywedol sy’n cysylltu haen fewnol y bilen dympanig â ffenest hirgron y glust fewnol)
- y glust fewnol (organ gynteddol-gogyrnol yn cynnwys camlesi hanner-cylchog ar gyfer cydbwysedd a chogwrn (cochlea) ar gyfer y clyw)
Gall colled clyw cynhenid fod yn ddargludol, wedi’i achosi gan namau yn yr esgyrnynau neu’r bilen dympanig. Gall colled synhwyraidd-niwrol ddigwydd o ganlyniad i broblemau ynghylch y cogwrn (y glust fewnol), y nerfau clywedol neu freithell yr ymennydd. Mae colled clyw canolog (synhwyraidd) yn deillio o niwed i’r nerf glywedol ei hun, neu’r llwybrau yn yr ymennydd sy’n arwain at y nerf. Mae colled clyw canolog yn anghyffredin mewn babanod a phlant.
Y Glust Allanol (pinna neu odre’r glust)
Mae mân anomaleddau’n beth cyffredin. Gwelir amrywiaeth eang ym maint a siâp y glust allanol ymhlith y boblogaeth normal. Gall mân amrywiadau fod yn arwydd o syndromau cromosomaidd (e.e. trisomedd 18 neu 21) neu ddefnydd o gyffuriau gan y fam (e.e. isotretinoin).
Microtia yw pinna bach/camffurfiedig, ac anotia yw absenoldeb llwyr y pinna. Gall y rhain ddigwydd fel anomaledd unigol neu gydag anomaleddau eraill, holltau wynebol a namau cardiaidd gan amlaf. Gall microtia/anotia achosi colled clyw dargludol os oes atresia yn y meatws acwstig allanol (am resymau genetig yn aml) neu broblemau yn y glust ganol. Gall yr anhwylder fod ar un ochr neu’n ddwyochrog (10%). Gall fod yn gysylltiedig â syndromau cromosomaidd, cyffuriau a gymerwyd gan y fam (e.e.thalidomid) ac anhwylderau gen sengl (Syndrom Treacher Collins). Mae’r ffactorau risg yn cynnwys oedran uchel y fam, cyrhaeddiad addysgol isel y fam, diffyg asid ffolig, diabetes â dibyniaeth inswlin, esgoredd uchel, ardaloedd uchel iawn, byw mewn dinas a rhyw gwrywaidd y baban.
Y Glust Ganol
Mae coleasteatoma cynhenid yn syst llawn ceratin a geir y tu mewn i bilen dympanig normal. Gall achosi colled clyw dargludol. Y driniaeth a roddir yw ei waredu trwy lawdriniaeth hyd yn oed os bydd hyn yn amharu ar y clyw, gan ei fod yn broses ddinistriol ddychweliadol o fewn y glust ganol.
Y Glust Fewnol a cholled clyw
Gall anomaleddau cynhenid y glust fewnol achosi colled clyw synhwyraidd-niwrol weithiau. Achosir y rhan fwyaf o’r rhain gan abnormaleddau’r celloedd blew yn y cogwrn, ac mae ganddynt darddiad genetig.
Embryoleg
Mae datblygiad yn dechrau’n gynnar ym mhedwaredd wythnos y beichiogrwydd. Mae’r glust allanol, y glust ganol a’r glust fewnol i gyd yn yn datblygu’n annibynnol o’i gilydd.
Achosion a ffactorau risg
Mae namau’r glust a byddardod yn gysylltiedig ag amrywiaeth eang o ffactorau genetig ac amgylcheddol. Darganfuwyd mwy na 40 o enau sy’n achosi byddardod. Gall hyn ddeillio o namau genol unigol neu fod yn rhan o syndrom ehangach.
Syndromau
- Syndrom Waardenburg – hypertricosis yn yr aeliau sy’n cwrdd yn y canol, heterocromia yn yr irisau (llygaid o liwiau gwahanol), blaengudyn gwyn
- Syndrom Klippel Feil – gwegil fer, llinell wallt isel, symudedd cyfyngedig yn rhan uchaf yr asgwrn cefn
- Syndrom Alport – fe’i hetifeddir fel rheol fel nodwedd drech X-gysylltiedig ac mae’n effeithio ar fechgyn yn amlach nag ar ferched. Ceir llid glomerwlaidd cynyddol dybryd yr arennau. Mae’r byddardod yn gynyddol hefyd, ac os na chaiff ei sgrinio mae’n bosibl na fydd yn bresennol cyn i’r plentyn gyrraedd 10 mlwydd oed
Achosion an-syndromig
- Mewn gwledydd datblygedig, mae 60-80% o achosion o golled clyw cynnar ei ymddangosiad yn deillio o ffactorau genetig. Ymddengys mai mwtadiadau yn y gen sy’n amgodio connexin 26 sy’n gfrifol am y rhan fwyaf o achosion. Ceir hyn pan fydd y baban wedi etifeddu copi diffygiol o’r gen sy’n effeithio ar y protein Connexin 26 o’r ddau riant. Credir bod colled ar y clyw yn cael ei achosi gan y newid sy’n dilyn yn llif y potasiwm yn y glust fewnol
- Mae heintiau yn y fam yn ystod beichiogrwydd, yn enwedig y trimis cyntaf, yn gallu effeithio ar ddatblygiad y glust fewnol gan achosi colled clyw synhwyraidd-niwrol. Mae heintiau sy’n achosi byddardod yn cynnwys sytomegalofirws, tocsoplasmosis a’r frech boeth (siffilis). Gall heintiad y frech Almaenig (rwbela) yn seithfed ac wythfed wythnosau beichiogrwydd effeithio ar ddatblygiad y cogwrn ac achosi byddardod sylweddol. Yn ffodus, erys y frech Almaenig gynhenid yn anghyffredin iawn yng Nghymru. Ond mae pryderon y gallai achosion ymddangos o ganlyniad i’r cyfraddau isel o frechiadau rhag MMR ymhlith merched sy’n cyrraedd eu harddegau a’u hugeiniau ac yn dueddol i gael y firws sy’n dal ar led yng Nghymru
- Cyffuriau ototocsig: Gall rhai cyffuriau a gymerir yn ystod beichiogrwydd effeithio ar y clyw. Maent yn cynnwys yr aminoglycosidau (e.e. streptomysin) a chwinîn
- Alcohol: Gall colled clyw synhwyraidd-niwrol fod yn rhan o’r darlun clinigol o syndrom alcohol ffetysol
- Cynamseroldeb: Bydd rhyw 5% o fabanod cynamserol yn dioddef colled clyw synhwyraidd-niwrol i ryw raddau
Darganfod anomaleddau
Darganfyddir anomaleddau yn y glust allanol trwy archwiliadau corfforol.
Sefydlwyd sgrinio newyddenedigol ar gyfer colled clyw dwyochrog yng Nghymru yn 2003. Mae data CARIS yn dangos sut mae’r gyfran o achosion a ddiagnosir yn ystod mis cyntaf bywyd wedi cynyddu ers i’r rhaglen sgrinio gael ei sefydlu o 4% i 29% o’r achosion o golled clyw dwyochrog.
Rheolaeth
Nod allweddol yw darganfod colled clyw a’i reoli yn gynnar fel y gellir cynnal datblygiad sgiliau cyfathrebu mewn babanod a phlant ifanc a effeithir ganddo. Mae hyn yn golygu gweithio aml-asiantaethol mewn partneriaeth â’r plentyn a’r teulu, gan gynnwys:
- Cefnogaeth a gwybodaeth i’r teulu
- Mwyafu’r clyw. Er enghraifft, trwy gyfrwng cymhorthion clywed, dolenni sain a chymhorthion radio; mewnosodiadau cogyrnol
- Cymorth i gyfathrebu gan gynnwys:
- Therapi lleferydd i helpu plant i ddatblygu sgiliau gwrando a lleferydd
- Darllen gwefusau/darllen lleferydd
- Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a / neu sillafu â’r bysedd
- Cefnogaeth cyn-ysgol ac yn yr ysgol, gan gynnwys asesiad o anghenion a darpariaeth (Tidy, 2014 )
Efallai na fydd angen triniaeth ar gyfer anomaleddau’r glust allanol. Yn achos microtia neu anotia dybryd, gellir defnyddio prosthesisau o fwy neu lai 3 blwydd oed ymlaen, a llawdriniaeth yn 7 i 8 oed. Gall anomaleddau’r glust ganol fod yn addas ar gyfer llawdriniaeth hefyd, yn ddibynnol ar natur a chwmpas y nam dan sylw
Gweithiau y cyfeiriwyd atynt
- Forfar and Arneil (1998) Textbook of Paediatrics, Churchill Livingstone
- Matsunaga, T. (2009). "Value of genetic testing in the otological approach for sensorineural hearing loss". The Keio journal of medicine 58 (4): 216–222.
- Moore and Persaud (2003) Before We Are Born, Saunders
- Tidy, C. (2014 , 03 21). Deafness in Children. Retrieved from Patient.co.uk: http://www.patient.co.uk/doctor/deafness-in-children