Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws/ baban?

Mae’r baban newydd-anedig yn arfer ymgyflwyno â syanosis oherwydd y diffyg ocsigen yng nghylchrediad y gwaed. Oni chyflawnir llawdriniaeth fe fydd mwy na hanner y babanod sy’n dioddef yr anhwylder yn marw cyn cyrraedd dwy flwydd oed. Mae’r rhagolygon wedi gwella mewn achosion lle cyflawnir llawdriniaeth, ac yn absenoldeb cymhlethdodau eraill mae’r posibiliadau o oroesi’n dda, er y bydd angen ôl-driniaeth am weddill oes y claf. Mae’n bosibl y bydd galw am septoplasti balŵn yn fuan ar ôl y geni i greu nam artiffisiol dros dro yn y septwm nes bod modd cyflawni llawdriniaeth bellach. Mae cywiro’r nam yn sylweddol yn golygu llawdriniaeth i ddargyfeirio arterïau, lle’r adgysylltir arterïau mawrion i’r fentrigl gywir.