Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Trawsleoliad yr arterïau mawrion yw’r ffactor mwyaf cyffredin sy’n achosi clefyd syanotig y galon mewn babanod newydd-anedig ac mae’n fwy cyffredin ymhlith gwrywod: mae rhwng 60% a 70% o achosion yn digwydd mewn gwrywod. Mae’r aorta a’r arterïau ysgyfeiniol wedi’u ‘trawsleoli’, â’r aorta’n deillio o’r fentrigl dde a’r arteri ysgyfeiniol o’r fentrigl chwith, gan beri dau gylchrediad gwaed ar wahân. Mae angen cysylltiad rhwng y ddau gylchrediad er mwyn i waed wedi’i ocsigeneiddio gyrraedd meinweoedd y corff. Gall hyn ddigwydd drwy nam yn y septwm fentriglol (25% o achosion) neu barhad y ductus arteriosus agored.

Ni wyddys beth sy’n achosi’r anhwylder hwn, ac mae’n debyg bod nifer o ffactorau ar waith, ond credir ei fod yn fwy cyffredin ymlith babanod a enir gan famau diabetig.