Cofnodwyd 66 o achosion ohono ar gronfa ddata CARIS rhwng 1998 a 2016, gan roi cyfradd o 1 i bob 10,000 o enedigaethau. Ganwyd 64% ohonynt yn fyw. Dyma’r anhwylder cardiaidd lleiaf cyffredin o’r rhai a drafodir yma. Mae’r CDC yn amcangyfrif bod llai nag un achos i bob 10,000 o enedigaethau byw yn yr Unol Daleithiau, ac awgrymodd EUROCAT, sy’n coladu data o gofrestrau ledled Ewrop, fod y mynychder yn 0.51 i bob 10,000 o enedigaethau (2011 tan 2015).