Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae ei ganfod?

Mae’n bosibl ei ganfod yn y sganiad ar gyfer anomaleddau a gynigir i fenywod beichiog yn 18fed – 20fed wythnos y beichiogrwydd, a rhwng 2014 a 2016 cafodd 27 o achosion o’r 37 a welwyd yng Nghymru (73%) eu canfod trwy’r sganiad hwn. Unwaith y tybir ei bresenoldeb, gellir cadarnhau’r diagnosis trwy gyfrwng ecocardiograffi a sganiadau eraill. Mae’n bosibl y bydd angen cathetreiddio cardiaidd hefyd er mwyn astudio’r llif gwaed ysgyfeiniol yn dilyn yr esgoriad.