Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws/ baban?

Mae syanosis yn anghyffredin ar adeg geni gan fod gan fabanod fel arfer ductus arteriosus agored sy’n gwella’r llif gwaed ysgyfeiniol. Wrth i’r ductus gau, mae syanosis yn datblygu ynghyd â murmur calon uchel croch. Ar ôl diagnosis, mae’r rheolaeth gychwynnol yn canolbwyntio ar gynnal lefel ocsigeneiddio ddigonol yn y gwaed. Cyflawnir cywiriad llawfeddygol fel arfer pan fydd y baban tua chwe mis oed, er y gall y bydd angen ymyrryd ynghynt os yw’r lefelau ocsigen yn isel. Mae cyfraddau goroesi ymhlith plant â Phedwarawd Fallot wedi gwella’n syfrdanol dros y degawdau diweddaraf. Mae babanod sy’n ei ddioddef mewn perygl uwch o ddatblygu endocarditis.

Gall Pedwarawd Fallot fod yn gysylltiedig hefyd ag anomaleddau eraill gan gynnwys omffalosele, torllengig a namau cromosomol. Mae namau cromosomol i’w gweld yn aml ymhlith plant â Phedwarawd Fallot, megis Syndrom Down a Syndrom DiGeorge (anhwylder sy’n achosi namau yn y galon, lefelau calsiwm isel ac imiwnoddiffygiant).

 

Llun o'r galon - Pedwarawd Fallot

Cyfeirnod: OpenStax, Anatomy & Physiology. OpenStax CNX. ‎30‎ ‎Jul‎ ‎2014 http://cnx.org/contents/14fb4ad7-39a1-4eee-ab6e-3ef2482e3e22@6.27.