Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae Pedwarawd Fallot yn fath o glefyd syanotig cynhenid y galon sy’n cwmpasu pedwar nam sylweddol ar y galon:

  • Gwyriad (gorgyffwrdd) anterior yr aorta;
  • Nam yn y septwm fentrigol (VSD);
  • Stenosis (crebachiad) yr ysgyfaint; a
  • Hypertroffedd (gordwf) y fentrigl dde.

Mae stenosis ysgyfeiniol yn cyfyngu ar lif y gwaed i’r ysgyfaint, gan beri i waed prin ei ocsigen gronni ar ochr dde’r galon. Mae pwysedd yn cynyddu yn y fentrigl dde i wthio’r gwaed dat-ocsigeneiddiedig trwy’r VSD a’r aorta gwyriedig i ochr chwith y galon, heb iddo basio trwy’r ysgyfaint. Mae hypertroffedd y fentrigl dde’n datblygu wrth i’r fentrigl dde ymdrechu i wthio maint ychwanegol o waed trwy’r falf ysgyfeiniol stenotig. Ni wyddys beth sy’n achosi’r anhwylder hwn.