Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws/ baban?

Yn ogystal â’r cysylltiad a welir yn aml ag anomaleddau cardiaidd eraill, mae DORV yn ymgyflwyno ar sawl ffurf wahanol ac mae cyflwr y baban yn amrywio felly yn unol â’r math o DORV sy’n bresennol a’r anhwylderau eraill sy’n bresennol. Bydd babanod â DORV yn datblygu symptomau a all gynnwys methiant i ffynnu, chwysu, diffyg anadl, syanosis neu groen glas a chwyddo yn y coesau a’r abdomen. Bydd angen llawdriniaeth ar y baban, ond bydd hyn yn dibynnu eto ar y math o DORV a’i enbydrwydd, ynghyd â’r anhwylderau eraill sy’n bresennol.