Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor gyffredin ydyw yng Nghymru?

Cofrestrwyd 195 o achosion ohono yng Nghymru rhwng 1998 a 2016, gan roi cyfradd o 3.1 o achosion i bob 10,000 o enedigaethau, y ganwyd 45% ohonynt yn fyw. Awgrymodd EUROCAT, sy’n coladu data o gofrestrau ledled Ewrop, fod y mynychder yn 2.4 i bob 10,000 o enedigaethau (2011 tan 2015). Yn yr Unol Daleithiau, mae’r CDC yn amcangyfrif bod rhyw 1 ym mhob 4,344 o fabanod yn cael ei eni’n dioddef HLHS (sef 2.3 i bob 10,000 o enedigaethau).