Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae ei ganfod?

Gellir ei ganfod yn y sganiad ar gyfer anomaleddau a gynigir i fenywod beichiog yn 18fed – 20fed wythnos y beichiogrwydd, ond mae’n anodd i’w weld ar yr adeg hon yn natblygiad y ffetws. Ymhlith y nodweddion a ganfyddir trwy uwchsain y mae fentrigl chwith sy’n llai na’r un ar y dde, ac aorta a bwa aortig sy’n llai nag arfer. Serch hynny, llai na phumed ran o’r achosion hysbys (17.8%) o’r cyflwr hwn yng Nghymru sy’n cael eu canfod adeg y sganiad hwn, tra bod y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu canfod trwy ecocardiogram, sganiad neu archwiliad pelydrau x ar ôl yr enedigaeth, ar ôl iddi ddod yn amlwg bod anhwylder cardiaidd ar y baban.