Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor gyffredin ydyw yng Nghymru?

Cofnodwyd 360 o achosion o amgaead ar gronfa ddata CARIS rhwng 1998 a 2016. Mae hyn yn rhoi cyfradd o 5.7 i bob 10,000 o enedigaethau yng Nghymru. Ganwyd 93.1% o’r rhain yn fyw, a goroesodd 90% o fabanod nes cyrraedd un flwydd oed o leiaf. Awgrymodd EUROCAT, sy’n coladu data o gofrestrau ledled Ewrop, fod y mynychder yn 3.45 i bob 10,000 o enedigaethau (2011 tan 2015). Mae’r Canolfannau dros Reoli ac Atal Clefydau (CDC) yn yr Unol Daleithiau’n amcangyfrif bod rhyw 4 ym mhob 10,000 o fabanod yn cael eu geni yn UDA yn dioddef amgaead.