Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws/ baban?

Mae amlygrwydd presenoldeb amgaead yn dibynnu ar ddifrifoldeb y culhau. Mae amgaead enbyd yr aorta’n arfer ymddatgelu trwy arwyddion clinigol yn fuan ar ôl yr enedigaeth, gan gynnwys croen gwelw, piwisrwydd, chwysu trwm ac anhawster wrth anadlu. Adeg y geni, gall amgaead y ductus arteriosus achosi ataliad enbyd i’r llif yn yr aorta, a gall trallod resbiradol eithafol fod yn amlwg yn y baban. Mae moddion ar gael serch hynny i sicrhau y bydd y ductus arteriosus yn aros ar agor nes bod llawdriniaeth ar gael. Os gadewir hyn heb driniaeth, gall amgaead enbyd arwain at fethiant ar y galon a marwolaeth.