Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae amgaead yn deillio o gulhau yn yr aorta, sef y brif arteri yn y corff dynol. Gall y nam hwn ddigwydd unrhywle ar hyd yr aorta ond yn amlach na pheidio fe’i gwelir ychydig ar ôl yr arteri isglafiglaidd ar lefel y ductus arteriosus. Mae’r pen a’r breichiau’n derbyn cyflenwad gwaed normal ond amherir ar y cyflenwad gwaed i hanner isaf y corff.

Mae ymgyflwyniad yn ddiweddarach yn ystod plentyndod neu fel oedolyn yn awgrymu anomaledd llai enbyd fel arfer. Mae canfyddiadau diweddarach yn cynnwys pwysedd gwaed uchel yn y fraich, anghysondeb rhwng curiad y pyls a’r pwysedd gwaed yn y breichiau a’r coesau, diffyg anadl, pen tost, gwendid yn y cyhyrau neu gramp a gwaedu o’r trwyn. Ni ddeëllir  beth sy’n achosi amgaead. Mae’n digwydd ddwywaith mor aml mewn gwrywod ac yn gysylltiedig yn aml â namau eraill ar y galon gan gynnwys falf aortig ddeubwynt, stenosis y falf, namau yn y septwm a ductus arteriosus agored. Fe’i cysylltir hefyd â rhai abnormaleddau cromosomol, syndrom Turner gan amlaf mewn merched, a dilëad 22q11.