Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor gyffredin yw thalasemia yng Nghymru?

Mae thalasemia’n anghyffredin yng Nghymru, a dim ond un achos y flwyddyn a adroddir ar gyfartaledd i gronfa ddata CARIS. Adroddwyd cyfanswm o 25 o achosion yng Nghymru i’r gronfa ddata rhwng 1998 a 2015, sef cyfradd o 0.4 i bob 10,000 o enedigaethau. Ni wyddys pa mor fynych yw’r anhwylder ar raddfa fyd-eang. Serch hynny mae Orphanet, y porth ar-lein ar gyfer clefydau prin, yn amcangyfrif mynychder byd-eang ar gyfer thalasemia beta o 1/100,000, a mynychder tebyg ar gyfer thalasemia alffa yng ngogledd Ewrop.