Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Thalasemia yw’r enw a roddir i grŵp o anhwylderau sydd, yn debyg i glefyd y crymangelloedd, yn effeithio ar hemoglobin.  Yn yr anhwylderau hyn mae’r corff yn cynhyrchu rhy ychydig o hemoglobin neu ddim hemoglobin. Gall yr anhwylder greu sefyllfa lle y bydd gan bobl ormod o haearn yn eu cyrff, a gallant hefyd fod yn anemig ac yn fwy tueddol i ddioddef heintiau.

Achosir thalasemia gan nam yn y cadwyni protein sy’n gwneud hemoglobin. Mae yna ddwy gadwyn alffa a dwy gadwyn feta. Rhoddir thalasemia mewn dau gategori yn ôl pa gadwyn o’r moleciwl hemoglobin y mae’n effeithio arni. Yn thalasemia alffa (thalasemia α) effeithir ar gynhyrchiad y gadwyn globin α, ac yn thalasemia beta (thalasemia β) effeithir ar gynhyrchiad y gadwyn globin β. Y math mwyaf difrifol o thalasemia yw thalasemia beta major: nid yw pobl â’r anhwylder hwn yn gallu cynhyrchu celloedd gwaed cochion normal ac nid ydynt yn cynhyrchu digon o hemoglobin. Mae mathau eraill yn cynnwys clefyd hemoglobin H.

Amgodir y cadwyni globin beta gan un genyn ar y cromosom 11 ac amgodir cadwyni globin alffa gan ddau enyn â chysylltiad agos rhyngddynt ar y cromosom 16. Mae thalasemia i’w weld amlaf ymhlith pobl o dras Ganoldiraidd, rhai o Dde Asia ac o’r Dwyrain Canol, ac mae’r cyfraddau’n debyg iawn rhwng gwrywod a menywod. Mae’n bosibl cludo’r anhwylder hefyd (nodwedd thalasemia).