Neidio i'r prif gynnwy

Sut gellir ei ganfod?

Nid yw sgrinio cynenedigol ar gyfer HS yn rhan o’r rhaglen sgrinio gynenedigol yng Nghymru, ond mae potensial ar gyfer diagnosis cynenedigol trwy ddefnyddio cordosentesis ac archwilio nodweddion morffolegol celloedd gwaed y ffetws. Gall anemia dybryd ymddangos yn gynenedigol fel clwy’r dŵr y gellir ei adnabod yn hawdd trwy ddefnyddio uwchsain.

Nid yw sgrinio ar gyfer HS yn rhan o’r rhaglen smotyn gwaed newyddenedigol chwaith. Ond gall HS dybryd ymddangos fel y clwy melyn yn ystod y cyfnod nedwyddenedigol; ar adegau bydd angen trallwysiad cyfnewidiol, ac mewn achosion o’r fath dylai fod yn bosibl diagnosio tra bod y baban yn ifanc iawn o hyd.