Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r rhagolygon?

Mae gan y rhan fwyaf o’r plant hynny a enir gydag HS ffurf ysgafn o’r clefyd nad yw’n amharu ar eu ffordd o fyw. Ond mae plant a enir gyda sfferosytosis etifeddol dybryd (rhyw 5% o’r achosion o HS) yn anemig yn barhaus, a gallant fod yn ddibynnol ar drallwysiadau, yn enwedig yn eu blynyddoedd cynnar. Gall triniaeth erythropoietin fod yn fuddiol iddynt, a gallai hyn leddfu’r angen am drallwysiadau yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Anaml y bydd angen trallwysiadau ar ôl y blynyddoedd cyntaf, gan fod y rhan fwyaf o blant yn gallu goddef lefel isel hemoglobin.

Cysylltir hemolysis â risg uwch o ddioddef cerrig bustl. Gall y bydd angen tynnu’r dduen (sblenectomi) oherwydd trosiant amlach y celloedd cochion, ac mae hyn yn ei dro’n golygu risg uwch o ddal heintiau; mae’n hanfodol bwysig felly i blant dderbyn yr holl frechiadau a argymhellir yn unol â’r canllawiau cenedlaethol ynghylch brechu.